Grantiau
NAWDD
Grant o £250 i Eisteddfodau Newydd
Adeg digon anodd ac ansicr yw’r cyfnod rhwng penderfynu codi eisteddfod newydd a’i chynnal.
I roi cymorth yn yr adeg costus hwnnw mae’r Gymdeithas yn cynnig grant o £250. Mae hwn ar gael i unrhyw eisteddfod newydd sbon neu eisteddfod sydd wedi peidio ers sawl blwyddyn ac am atgyfodi.
** Sylwer: Rhaid gwarantu y bydd yr eisteddfod yn rhedeg am 3 blynedd o leiaf, neu fe fydd y Gymdeithas yn medru hawlio £150 yn ôl.
Cliciwch isod i gael copi o’r ffurflen gais:
Grant hyd at £50 - 'Sgen ti Dalent?'

Y syniad y tu ôl i’r gystadleuaeth hon yw creu ychydig o adloniant yn ystod eisteddfod leol. Dim byd o ddifri, dim ond cystadleuaeth ysgafn i ddiddori cynulleidfa. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unigolion neu grwpiau (ond cofiwch bod modd i chi amrywio’r oedran yn unol â gofynion eich eisteddfod chi).
Ceir 4 munud i ddiddanu’r gynulleidfa drwy: ganu, dawnsio, actio, lefaru, dweud jôcs, canu offeryn, perfformio sgiliau syrcas, gwneud triciau – UNRHYW BETH fydd yn difyrru’r gynulleidfa! (Caniateir 2 funud ychwanegol i osod y llwyfan os yw cystadleuwyr yn dymuno defnyddio props/offer/offerynnau cerdd ayb.)
Y beirniaid fydd y beirniaid canu a llefaru (ac unrhyw feirniad arall sy’n bresennol) ac un o swyddogion yr eisteddfod. Dyfernir y gwobrau gan y beirniaid am y perfformiad/au sydd wedi eu diddanu orau. Rhennir y wobr o £50 fel y maent yn dymuno, ond ni ddylir rhoi mwy na £25 yn wobr gyntaf.
Amodau:
Rhaid i’r perfformiad fod yn weddus i gynulleidfa deuluol
Rhaid i’r perfformiad fod yn yr iaith Gymraeg neu’n ddi-iaith
Ni chaniateir i gystadleuwyr berfformio darn a berfformir ganddynt mewn cystadleuaeth arall (h.y. os oes cystadleuaeth “Cân o Sioe Gerdd” yn yr eisteddfod, ni chaniateir cân o sioe gerdd yn y gystadleuaeth ‘Sgen ti Dalent?’)
Cliciwch isod i gael ffurflen gais am swm hyd at £50.
Raffl Flynyddol
Bob blwyddyn mae'r Gymdeithas yn cynnal raffl fawr, sy'n cael ei thynnu ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod Genedlaethol.
Tua mis Tachwedd, anfonir 10 llyfr o docynnau at bwyllgor pob eisteddfod leol. Gofynnir i chi anfon £20 'nôl atom - sef gwerth 4 llyfr. Ar ôl hyn, yr eisteddfod leol fydd yn cadw holl elw'r gwerthiant, felly po fwyaf o docynnau a werthir, y mwyaf yw'r elw. Mae hwn wedi profi'n ffordd syml o godi arian at goffrau eich eisteddfod.
Gellir cysylltu â ni er mwyn cael rhagor o lyfrau i'w gwerthu.
Noddwr y raffl yw cwmni Teithiau Elfyn Thomas, ac mae'n diolch ni'n fawr iddynt.