AMDANOM NI?

HANES

LogoCEC

 Ffurfiwyd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru ym 1998 gyda'r nod o gefnogi, hybu a rhoi cynhaliaeth i eisteddfodau lleol ledled Cymru drwy ddulliau ymarferol. Mae oddeutu 120 o eisteddfodau drwy Gymru gyfan, rhai'n llai na'i gilydd ond y cyfan ohonynt yn rhan annatod o'n diwylliant.  Prif amcanion a nodau'r Gymdeithas yn gyffredinol yw:

 

Cynnal a chynyddu’r nifer o bobl sy’n cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol naill ai fel cystadleuwyr neu fel trefnwyr;

 

Cynnal a chynyddu’r niferoedd sy’n mynychu’r eisteddfodau lleol fel cynulleidfaoedd;


Cefnogi a hybu darpar gystadleuwyr eisteddfodol - drwy drefnu gweithdai a hyfforddiant mewn meysydd y gallant gystadlu ynddynt a chydweithio gyda’r eisteddfodau lleol a’r eisteddfod Genedlaethol i drefnu cystadlaethau; 


Cefnogi pwyllgorau a threfnwyr eisteddfodau lleol drwy ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol ar gyfer trefniadau eisteddfodol.

GWAITH Y GYMDEITHAS

 

O'r 120 o eisteddfodau lleol yng Nghymru gyda hyd at 100 ohonynt yn aelodau o’r Gymdeithas ac yn derbyn cyngor a chefnogaeth gan y Gymdeithas yn rheolaidd. Mae’r eisteddfodau hyn yn cynnwys eisteddfodau pentref neu ardal ac eisteddfodau rhanbarthol ac maent yn darparu gweithgareddau a bwrlwm diwylliannol yn eu cymunedau. Yn ystod y degawd diwethaf mae nifer o’r eisteddfodau wedi datblygu eu gweithgareddau er mwyn:

 

Darparu cystadlaethau penodol ar gyfer plant a phobl ifanc lleol yn ogystal â chystadlaethau “agored” ar gyfer cystadleuwyr mwy profiadol.

 

Darparu cystadlaethau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Darparu gweithgareddau ar gyfer dysgwyr

 

Cynnal eu cynulleidfaoedd mewn hinsawdd sydd yn newid yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

 

Mae’r eisteddfodau lleol yn darparu cyfleoedd i gystadleuwyr feithrin profiad a hyder ac maent yn chwarae rôl bwysig yn “bwydo” yr eisteddfodau cenedlaethol - Eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc yn ogystal â’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Mae gan y Gymdeithas Swyddog Datblygu a Swyddog Cyfathrebu, a'u gwaith nhw yw:

 

Darparu cyngor a chefnogaeth i helpu pwyllgorau eisteddfodau lleol gyda’u trefniadau lle bo’r angen.

 

Hwyluso gwaith trefnwyr eisteddfodau trwy ledaenu a rhannu gwybodaeth.

 

Darparu cyngor a chefnogaeth ddwys ble mae eisteddfod newydd yn cael ei sefydlu neu ble mae swyddogion neu bwyllgor eisteddfod yn ddibrofiad ac angen cymorth arbenigol.

 

Trefnu seminarau, cynnal gweithdai a sefydlu trefniadau mentora er mwyn hybu sgiliau beirniaid, cyfeilyddion a threfnwyr eisteddfodau lleol.

 

Trefnu a hyrwyddo cystadlaethau mae’r Gymdeithas wedi eu trefnu ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol - gyda “rhag-gystadlaethau” yn cael eu cynnal yn yr eisteddfodau lleol.

 

Darparu gwybodaeth am eisteddfodau, cystadlaethau a chystadleuwyr drwy gyfrwng ein cylchlythyr “Steddfota” ac ar ein gwefan.

 

Sicrhau rhwydweithio rhwng holl eisteddfodau Cymru, gan gynnwys yr eisteddfodau rhanbarthol a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Diolch i chi am ymweld â'r wefan hon ac am gymeryd diddordeb yn y Gymdeithas a'r hyn y mae'n ei wneud.