YMAELODI
AELODAETH
Ar hyn o bryd mae degau ar ddegau o eisteddfodau'n aelodau o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru. Mae llu o fanteision, dyma enwi ond rhai:
• Cyngor a chefnogaeth gan ein Swyddog Datblygu a Swyddog Cyfathrebu.
• Dogfennau ac adnoddau defnyddiol i'w cael ar y wefan hon.
• Manylion am wahanol weithdai a fydd yn cael eu trefnu hyd a lled y wlad.
• Y stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd - cyfle i chi hybu eich eisteddfod.
• Cyfle i rannu syniadau gydag eisteddfodau eraill.
• Cydweithio gyda'ch papurau bro lleol.
• Cael bod yn rhan o sefydliad cenedlaethol a'r manteision a ddaw yn sgil hynny.
£20 yn unig yw aelodaeth blwyddyn a gofynnir i chi dalu'r tâl aelodaeth drwy:
1. anfon siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eisteddfodau Cymru', at Gareth Jones (Trysorydd), Awelfan, Rhydyfawnog, Tregaron, Ceredigion SY25 6JQ
2. gwblhau'r Ffurflen Archeb Banc isod a'i hanfon atom.
Os oes gennych ymholiad pellach cysylltwch â:
popeth@steddfota.cymru