LANSIO LLYFR EISTEDDFOD LLANWRTYD

Ar ddiwrnod Eisteddfod Gadeiriol Llanwrtyd eleni (Dydd Sadwrn, 23ain o Fedi), lansiwyd llyfr arbennig am hanes yr eisteddfod.


 hwythau wedi cynnal y 70fed eisteddfod yn 2022, y bwriad  gwreiddiol oedd cynhyrchu llyfryn bychan i ddathlu’r pen-blwydd, ond oherwydd yr holl hanes sy’n gysylltiedig â’r eisteddfod, a’r nifer o gystadleuwyr, beirniaid a ffrindiau oedd yn awyddus i gyfrannu, bu’n rhaid addasu’r cynllun a chynhyrchwyd llyfr dwyieithog, 168 o dudalennau. Adroddir hanes datblygiad yr eisteddfod dros y blynyddoedd trwy gasgliad o atgofion a straeon difyr, ynghyd â detholiad o luniau lliw.
Bu’r dasg o gasglu, cydlynu a chwblhau’r cyfan, yn dipyn mwy na’r disgwyl, ond serch hynny maent yn falch dros ben o’r gwaith gorffenedig. Braf oedd clywed fod y llyfr wedi denu llawer o ddiddordeb ar ddiwrnod yr eisteddfod ar y 23ain o Fedi eleni, a pleser yw medru datgan bod modd i unrhyw un sydd â diddordeb i’w brynu erbyn hyn.
£10 yw pris y llyfr, â’r elw i gyd yn mynd at Eisteddfod Llanwrtyd. I archebu eich copi cysylltwch ag Elin Mabbutt (elinmabbutt@live.co.uk) neu Susan Price (01591 610303). Gwneir pob ymdrech i ddosbarthu’r llyfrau’n bersonol, ond os na fydd modd gwneud hynny bydd rhaid iddynt godi tâl am bostio.

 


    

Llyfr Eisteddfod LLanwrtyd_

 

Dymuna Eisteddfod Llanwrtyd ddiolch o galon i Gwmni Charcroft Electronics Ltd, Llanwrtyd, am eu cefnogaeth ariannol.

 

mwy o newyddion